Cyngor Celfyddydau Cymru | Osi Rhys Osmond

Osi Rhys Osmond

Aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru.


Osi Rhys Osmond Mae Osi Rhys Osmond yn Ddarlithydd mewn Arlunio, Peintio a Hanes Celfyddyd ym Mhrifysgol Gelf a Dylunio Prifysgol Fetropolitan Abertawe. Mae wedi bod yn ysgrifennu adolygiadau ac erthyglau am gelfyddyd a diwylliant ers blynyddoedd, gan ymddangos hefyd ar y teledu ac ar y radio, yn Gymraeg ac yn Saesneg fel ei gilydd.

Fe'i hurddwyd yn aelod o Orsedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2006, a hynny er mwyn cydnabod ei gyfraniad i fyd y celfyddydau ac i addysg, ac am ei waith yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Fel artist sy'n ymarfer ei grefft, mae ei waith yn ymdrin â'r tensiynau sy'n codi yn y byd sydd ohoni heddiw, gan integreiddio myth a modernedd, ac mae'n arddangos yn helaeth.


Nôl at y rhestr o Aelodau >>

'Moth Drawing': Richard Powell
Amdanom Ni

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245