Is-bwyllgor i Gyngor Celfyddydau Cymru.
Cylch Gorchwyl
Adolygir a chymeradwyir cylch gorchwyl y Pwyllgor Tâl gan y Cyngor yn flynyddol. Adolygwyd a chymeradwywyd y ddogfen hon gan y Cyngor yn Chwefror 2011.
Swyddogaeth y Pwyllgor
- Monitro system dâl y Cyngor gan ystyried hefyd sefydliadau priodol eraill i feincnodi yn eu herbyn fel y gallwn atynnu, cadw a sbarduno staff cymwys mewn marchnad gystadleuol yn ddarostyngedig i gytundeb priodol Llywodraeth Cymru ac yng nghyd-destun yr adnoddau sydd ar gael.
- Argymell i'r Cyngor dargedau perfformiad blynyddol i'r Prif Weithredwr ac argymell taliadau dilynol yn ddarostyngedig i'r ffiniau a bennir gan Lywodraeth Cymru a'i chytundeb.
- Ystyried apeliadau perthnasol sydd yn y polisïau Cwyno, Disgyblu ac Aflonyddu
- Cytuno lefelau tâl ar gyfer y Cadeirydd ac, os bydd yn briodol yn y dyfodol, aelodau'r Cyngor dan y cyfyngiadau a bennir gan Lywodraeth Cymru yn ddarostyngedig i gyflwyniad gynt i'r Comisiwn Elusennau i'w gymeradwyo dan dermau Siarter Frenhinol y Cyngor.
Darllen y Cylch Gorchwyl llawn.