Cyngor Celfyddydau Cymru | Cynulleidfaoedd Cymru - Hanfodion Marchnata’r Celfyddydau, Rhaglen Medrau Creiddiol

Cynulleidfaoedd Cymru - Hanfodion Marchnata’r Celfyddydau, Rhaglen Medrau Creiddiol

22 Chwef 2012

Mae Cynulleidfaoedd Cymru wedi datblygu rhaglen hyfforddi newydd – Hanfodion Marchnata’r Celfyddydau – sef cyfres o weithdai a fydd yn rhoi’r medrau i chi fedru mynd i’r afael â marchnata’r celfyddydau yn llwyddiannus. Cynhelir y gweithdai yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Llandudno rhwng Hydref 2011 a Chwefror 2012.

Crëwyd y gweithdai er mwyn adeiladu eich medrau a’ch gwybodaeth mewn pump o feysydd allweddol dros amser (Marchnata a Chyhoeddusrwydd, y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus, Ymchwil a Data, Cynllunio, a Meithrin Cynulleidfaoedd). Dilynwch y rhaglen yn ei chyfanrwydd ynteu dewch i gymryd rhan mewn gweithdai sydd o ddiddordeb penodol i chi, ynteu rhannwch fynychu’r rhaglen gyfan gyda chydweithwyr er mwyn i’r lefel medrau gael hwb ar draws eich sefydliad.

Bydd pob un o’r gweithdai yn cynnwys enghreifftiau ymarferol er mwyn rhoi bywyd i’r syniadau ac yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n newydd i faes marchnata’r celfyddydau, yng nghyfnod cyntaf ei gyrfa, ynteu arbenigwyr mewn meysydd gwahanol i farchnata sy’n dymuno rhoi hwb i’w gwybodaeth ynghylch y maes hwn. Yn ogystal cynlluniwyd y rhaglen i fod o fudd i chi os ydych yn gweithio ar gyfer sefydliad proffesiynol, cymdeithas gymunedol neu grŵp amatur, ynteu’n artist unigol.

Dan arweiniad tîm Cynulleidfaoedd Cymru, yr asiantaeth farchnata’r celfyddydau a meithrin cynulleidfaoedd yng Nghymru, mae’r gweithdai’n argoeli i fod yn ddigwyddiadau addysgiadol, ymarferol ac yn hwyl!

Ar gyfer dyddiadau, lleoliadau a ffurflen archeb, ymwelwch os gwelwch yn dda â www.audienceswales.co.uk.

Cyllidir rhaglen Hanfodion Marchnata’r Celfyddydau Cynulleidfaoedd Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Marchnata a Chyhoeddusrwydd

Gan gychwyn gyda thros olwg o swyddogaeth marchnata’r celfyddydau (a’r rhesymau pam nad yr un peth yw marchnata a chyhoeddusrwydd), byddwn yn mynd i’r afael ag egwyddorion cyhoeddusrwydd da a sut mae llunio ymgyrch benigamp gan ddefnyddio’r wasg, deunydd uniongyrchol trwy’r post, deunydd wedi ei argraffu, y cyfryngau cymdeithasol ac e-farchnata.

Y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus

Cyflwyniad ymarferol i ddelio â’r cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus; gan bwysleisio’r gwahaniaethau rhwng y ddau, sut mae cynllunio ymgyrch yn y cyfryngau ac ysgrifennu datganiadau i’r wasg sy’n taro deuddeg, a sut mae dylanwadu ar eich cyfran ddeiliaid a chreu perthnasau buddiol ar eich cyfer eich hun a’ch sefydliad.

Technegau Ymchwil a Data

Mae deall cynulleidfaoedd yn sylfaenol hanfodol ar gyfer marchnata’n effeithiol. Mae datblygu darlun clir o’ch cynulleidfaoedd presennol a’r cynulleidfaoedd y gellid eu meithrin yn y dyfodol yn sylfaen ar gyfer y cyfan a wnewch. Byddwn yn eich tywys trwy wybodaeth sy’n rhydd i’w gael a’ch dysgu sut i’w ddehongli yn ogystal ag amlinellu’r technegau ymchwil y gellid eu defnyddio er mwyn deall a meithrin cynulleidfaoedd ynteu gyfranogwyr.

Cynllunio Marchnata

Sut mae gwireddu marchnata’n llwyddiannus a chael y gorau o’ch hadnoddau marchnata prin? Canllaw cynhwysfawr i gynllunio marchnata – Pam y dylech fod â chynllun? Sut ffurf sydd i gynllun effeithiol? - a fydd yn rhoi’r gallu i chi feithrin a gweithredu cynllun ymarferol a llwyddiannus at y dyfodol.

Meithrin Cynulleidfaoedd

Ystyr meithrin a datblygu cynulleidfaoedd yw cynyddu rhychwant y cynulleidfaoedd nid dim ond y niferoedd sy’n mynychu. Gyda dealltwriaeth glir o’ch cynulleidfaoedd, bydd y gweithdy hwn yn ystyried y technegau y medrwch eu defnyddio er mwyn cynorthwyo rhagor o bobl i gael cysylltiad â’ch gwaith a chynyddu eu hymwneud â’r celfyddydau.

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245