Half Moon ydyn ni, cwmni o lenorion profiadol sy’n gweithio i ddarparu gweithdai barddoni ac ysgrifennu pob mis sy’n edrych ar wahanol dirweddau, genres, a dulliau o ysgrifennu. Os ydych chi’n hoffi ysgrifennu, cerdded ac archwilio rhai o amgylcheddau naturiol mwyaf prydferth Prydain, yna mae’r gweithdai hyn yn ddelfrydol i chi.
Rydyn ni’n cynnig cyrsiau hanner diwrnod a phenwythnos, gan gynnal gweithdai awyr agored mewn gwahanol fannau hardd ledled y DU. Mae’r gweithdai hanner diwrnod yn para 2-3 awr, gydag amser i lenydda, cerdded, cymdeithasu, wedyn darlleniadau a chinio mewn tafarn neu ganolfan leol. Mae’r gweithdai penwythnos yn cynnig teithiau cerdded diwrnod llawn neu hanner diwrnod (yn dibynnu ar y lleoliad) sesiynau tiwtora fesul un, gweithgareddau grŵp, ac amser i lenydda.
Cyfleoedd gwaith
Rydyn ni wrthi’n llunio catalog o lenorion i gynnal ein cyrsiau hanner diwrnod. Y llenor fydd yn penderfynu ar y daith gerdded a thema’r gweithdy, a chaiff y llwybr ei fapio ymlaen llaw mewn cydweithrediad â Half Moon. Mae’r ffioedd yn amrywio rhwng £12.00 a £35.00 y pen yn dibynnu ar y gweithdy, a chodir o leiaf £12 y person. Bydd angen i’r gweithdy fod yn addas ar gyfer o leiaf pymtheg o bobl, ac rydyn ni’n ffafrio cydweithio’n agos â’r llenor ar gyhoeddusrwydd lleol/ar y we er mwyn sicrhau bod y gweithdy’n llawn.
Os ydych chi’n llenor profiadol yna byddem ni wrth ein bodd i glywed gennych os byddai diddordeb gennych chi gymryd rhan. Cysylltwch â ni trwy e-bostio email@valleyprojects.org neu ffonio Becky ar 07941 848 592.
Am unrhyw beth arall, ewch i’n gwefan sef: www.valleyprojects.org