Ein nod yw sicrhau nad oes rhwystrau hygyrchedd i'n swyddfeydd ar gyfer staff ac ymwelwyr anabl. Cynlluniwyd y swyddfeydd gyda golwg ar annibyniaeth a'n bwriad yw sicrhau hygyrchedd i bob ymwelydd, ni waeth am eu hanghenion unigol.
Gweld Cyngor Celfyddydau Cymru, swyddfa Caerdydd mewn map llawn
Hygyrchedd
Gallwch gyrraedd y swyddfa ar hyd llwybrau gwastad heb risiau na rampiau mwy serth na 1:20. Â pobl mewn cadair olwyn a phobl anabl eraill i'r swyddfa drwy'r fynedfa flaen gyda phob ymwelydd arall. Gallwch gyrraedd y swyddfa gyffredinol a'r stafelloedd cyfarfod drwy lifft drydanol sy'n cydymffurfio'n llwyr â gofynion hygyrchedd a bydd staff ar gael yn y dderbynfa i helpu os oes angen.
Parcio
Mae nifer cyfyngedig o leoedd parcio sy'n benodol i bobl anabl a allai fod ar gael i'n hymwelwyr yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Rhaid cadw lleoedd ymlaen llaw a bydd yr un sy'n cynnal y cyfarfod yn cadarnhau os bydd lle ar gael.
Hefyd mae 12 lle parcio rhad ac am ddim sy'n benodol i bobl anabl ar hyd Plas Bute, chwech gerllaw Canolfan Mileniwm Cymru a chwech arall ar ochr arall yr heol gerllaw Canolfan y Ddraig Goch.
Mae'n bosibl y bydd nifer cyfyngedig o leoedd parcio dan do ar gael yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Gofynna'r un sy'n cynnal y cyfarfod i Swyddog y Cyfleusterau a chedwir lle i chi os oes un ar gael.
Mae lleoedd parcio'r Ganolfan yn hygyrch o Stryd y Pierhead wrth ochr y Ganolfan.
Dylai'r gyrrwr gyflwyno ei hun i'r staff diogelwch yn y Porthdy wrth fynedfa ardal llwyfannu'r Ganolfan yn y cefn a chaiff wybod sut i gyrraedd y lle a gadwyd iddo.
Mae 72 lle sy'n benodol i bobl anabl ond rhaid talu amdanynt ar lawr gwaelod maes parcio'r Glannau sy'n hygyrch o Stryd y Pierhead.
Toiledau
Mae'r toiledau ar bob llawr yn hygyrch iawn i bobl mewn cadair olwyn.
Pobl â chymhorthion clyw
Mae dolen sain yn y dderbynfa ac mewn stafell gyfarfod.
Cŵn cymorth
Caniateir cŵn cymorth cofrestredig yn y swyddfa drwy drefnu ymlaen llaw gyda'r un sy'n galw'r cyfarfod.
Gwacáu mewn argyfwng
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cydnabod mai diogelwch a lles ein hymwelwyr yw'n prif flaenoriaeth a rhaid i staff sy'n cynnal cyfarfodydd fod yn gyfrifol dros sicrhau bod eu gwesteion yn ymadael â'r adeilad yn ddiogel mewn argyfwng. Felly rhaid i'r un sy'n cynnal cyfarfod asesu unrhyw anghenion penodol sydd gan ei westeion a chytuno ar gynllun gwacáu mewn argyfwng sy'n addas i unigolion.