Beth yw eiddo deallusol?
Gall eiddo deallusol (ED) adael i chi berchen ar bethau rydych yn eu creu mewn ffordd debyg i berchen ar eiddo ffisegol. Gallwch reoli defnydd o'ch ED, gan ei ddefnyddio i elwa. Mae hyn yn annog arloesi a chreadigrwydd pellach.
Y pedwar prif fath o ED yw:
- Mae hawlfraint yn diogelu deunydd, megis llenyddiaeth, celf, cerddoriaeth, recordiadau sain, ffilmiau a darllediadau.
- Mae dyluniadau'n diogelu'r olwg sydd ar gynhyrchion neu eu hatyniad gweledol.
- Mae Patentau'n diogelu'r agweddau technegol a gweithredol ar gynhyrchion a phrosesau.
- Mae Nodau Masnach yn diogelu arwyddion sy'n gallu gwahaniaethu rhwng nwyddau a gwasanaethau y naill masnachwr a'r llall.
Fodd bynnag, mae ED hefyd yn cynnwys cyfrinachau masnachol, amrywogaethau planhigion, dynodiadau daearyddol, hawliau perfformwyr ac yn y blaen. Yn aml, gellir cymhwyso mwy nag un math o DE at yr un greadigaeth.
Adnoddau
Darllen Pellach
Dear Images: Art, Copyright and Culture
gan Karsten Schubert (Golygydd), Daniel McClean (Golygydd)
ISBN:978-0954171025
Cyhoeddwyr: Ridinghouse
The Visual Artists Business and Legal Guide
gan Gregory T. Victoroff (Golygydd)
ISBN978-0133045932
Cyhoeddwyr: Pearson US Imports and PHIPEs