Cyngor Celfyddydau Cymru | Arddangos a Gwerthu

Arddangos a Gwerthu


Sut rydw i'n adnabod mannau addas?

Ar yr adeg hon, mae'n bwysig bod yn glir am eich amcan. A ydych yn chwilio am gyfle i gael arddangosfa, yn ceisio gwerthu'ch gwaith ar sail fanwerthu neu gael cyhoeddusrwydd cyffredinol neu a ydych am ennyn diddordeb pobl mewn comisiynu gwaith gennych?

Dylanwedir ar y math o ganolfan arddangos y byddwch yn chwilio amdano gan yr holl resymau a restrir uchod. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn gwneud eich ymchwil ac yn dewis mannau sy'n gydnaws â'ch math chi o waith. Mae llogi oriel yn bosibilrwydd a'r peth gorau yw gwneud hyn fel rhan o grŵp oherwydd gall fod yn gostus.

Mae'n werth nodi nad oriel o anghenraid yw'r gofod arddangos gorau. Gallai fod cyfleoedd mewn adeiladau cyhoeddus, mannau agored, adeiladau stiwdio ac yn y blaen.


Sut rydw i'n cysylltu ag oriel?

Mae'n well gan rai orielau ddod o hyd i chi a hwythau wedyn yn cysylltu â chi ond yn gyffredinol, bydd croeso i chi fynd atynt hwy. Anfonwch wybodaeth sy'n glir, yn gryno ac o ansawdd da. Delweddau digidol a phecynnau artistiaid yw'r ffyrdd gorau o wneud hyn. Gweler ein taflen gyngor 'Marchnata'ch gwaith' am wybodaeth am sut i roi pecyn artist at ei gilydd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon eich gwybodaeth at yr unigolyn cywir, gan wirio teitl eu swydd, y wefan neu'r rhif ffôn. I wneuthurwyr crefft yn arbennig mae'n bwysig cynnwys rhestr sy'n dangos prisiau cyfanwerthu ar gyfer sefyllfa fanwerthu neu brisiau gwerthu i arddangosfeydd.


Ysgrifennu cynnig

Wrth ysgrifennu cynnig, cadwch yr iaith yn glir ac yn gryno, gan osgoi jargon y celfyddydau. Cofiwch na fydd rhywbeth y buolch chi'n ei ystyried yn eich ffordd eich hun efallai mor hawdd ei ddeall gan rywun sy'n edrych ar eich syniadau am y tro cyntaf. Gofynnwch i rywun ddarllen trwy'r cais cyn i chi'i anfon fel y gallant nodi unrhyw beth nad yw'n glir iddynt. Cofiwch gynnwys dogfennaeth o'ch gwaith blaenorol ac os oes modd, ryw syniad gweledol o'ch cynnig.

Dylech ragosod y cynnig mewn trefn resymegol. Dechreuwch gyda llythyr eglurhaol, wedyn eich cynnig, wedi'i ddilyn gan wybodaeth ategol, cyllideb*, delweddau a cv, oni bai bod y cais yn ffafrio fformat penodol. Rhowch y cynnig mewn rhwymydd. Dylech ei bostio mewn da bryd, gan osgoi ei wneud ar y funud olaf; bydd rhywbeth yn mynd o'i le fel arfer, ee, inc argraffu'n darfod, oedi yn y post ac yn y blaen.

*Cyllidebau. Os ydych yn ysgrifennu cyllideb i'ch cynnig, peidiwch ag anghofio cynnwys unrhyw ariannu gan bartner, copïau o ddyfynbrisiau am ddeunyddiau, cefnogaeth mewn cynnyrch a thâl teg am eich amser. Ymwelwch ag Artists Newsletter am wybodaeth ynglŷn â chyfraddau tâl i artistiaid.

I ddechrau, gall orielau gysylltu ag artistiaid mewn gwahanol ffyrdd: sioeau graddio, arddangosfeydd amrywiol, ar lafar, ffeiriau crefftau, proffiliau ar-lein, gwefannau ac yn y blaen. Cofiwch fod y rhan fwyaf o orielau yn cynllunio arddangosfeydd ddwy flynedd ymlaen llaw ar gyfartaledd, felly efallai na fydd yr oriel yn cysylltu ar y dechrau ond i amlinellu cysyniad ar gyfer arddangosfa, i'w drafod yn nes ymlaen.

Artquest: Artists Resource


Beth yw'r weithdrefn unwaith i arddangosfa gael ei chadarnhau?

Os oes diddordeb gan yr oriel mewn datblygu'ch syniad neu gynnwys eich gwaith yn y rhaglen gyffredinol, dylech dderbyn contract sy'n amlinellu'r amodau arddangos (hy, cyflenwi a chasglu, yswiriant, comisiwn, gwerthiant a thalu a chyhoeddusrwydd) ac unwaith i chi dderbyn yr amodau hyn yn ysgrifenedig, mae'r contract hwn yn gyfreithiol-rwymol rhyngoch chi a'r oriel. Dylech godi unrhyw gwestiynau cyn arwyddo contract er mwyn osgoi dryswch yn y dyfodol.

Yn nes at amser yr arddangosfa (tua dau fis cyn y dyddiad agor), bydd manylion fel trefniadau cludo, cyflenwi a gofynion cyhoeddusrwydd a gwybodaeth i'r wasg yn cael eu cadarnhau. Eich cyfle olaf yw hwn i ddatrys unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â'r arddangosfa.

Dylai copïau o'r deunydd cyhoeddusrwydd gael eu hanfon atoch, gan adael digon o amser i chi'u dosbarthu at bobl ar eich rhestr eich hun - neu efallai y bydd yr oriel yn gofyn am eich rhestr wahoddiadau i unigolion a sefydliadau, gan ymgymryd ag ymgyrch bostio ar eich rhan.

Ar ôl i'r arddangosfa gau, dychwelir yr holl waith sydd heb ei werthu. Gwnewch yn siŵr ei bod yn glir yn eich contract pwy sy'n talu am ddychwelyd y gwaith. Rhaid i chi edrych dros bob darn o waith yn syth i weld a oes difrod neu waith nad yw wedi'i ddychwelyd, gan roi gwybod i'r oriel cyn gynted ag y bo modd. Yn fuan ar ôl hynny, dylech dderbyn cadarnhad am unrhyw daliad sy'n ddyledus i chi a phryd rydych yn debygol o'i dderbyn.

Gweler ein taflen gyngor Contractau, Ffioedd a Materion Cyfreithiol am fwy o wybodaeth a dolenni.


Beth sydd angen i mi ei wybod am arddangos mewn Ffeiriau Crefftau?

Mae manteision arddangos mewn ffeiriau crefftau'n cynnwys gwerthu gwaith yn uniongyrchol i'r cyhoedd, gan sicrhau mwy o elw na thrwy arddangosfa neu siop. Mae hwn hefyd yn gyfle pwysig i rwydweithio neu gwrdd â gwneuthurwyr eraill.

Dewis ffair: ni allwch wir asesu safon ffair ond trwy ymweld â hi eich hun - rhaid ei bod yn iawn i'ch gwaith ac yn gallu ysgogi gwerthiant gwerth chweil, archebion yn y dyfodol, cysylltiadau a chyfleoedd.

Cyn i chi wneud cais neu ymrwymo dylech gael gwybod am gyhoeddusrwydd ymlaen llaw, gwerthiant a nifer yr ymwelwyr yn y blynyddoedd blaenorol. Os oes modd, cysylltwch â phobl sydd wedi arddangos yn y gorffennol i gael eu barn. Cyn y digwyddiad, gwnewch yn siŵr eich bod yn hysbysu'ch cwsmeriaid presennol, eich rhestr gleientiaid a hefyd y wasg er mwyn sicrhau bod y digwyddiad mor llwyddiannus ag sy'n bosibl.

Crafts Scotland

Craft and Design Magazine


Rhai ffeiriau crefftau

Origin

Ffair Crefftau Cyfoes Bovey Tracey

Lustre

Ceramic Art London

Great Northern Contemporary Craft Fair

Hereford Contemporary Craft Fair


Some Art Fairs

Ffair Gelf Fforddiadwy

Zoo Art Enterprises

Frieze Art Fair

Ffair Gelf Llundain


Galleries in Wales

Cynllun Casglu

Orielau yng Nghymru


Some Competitions and Opens Prizes

Cyfleoedd [Heb fod ar gael eto]

Oriel Davis Gallery

Artist Cymreig y Flwyddyn

Cystadleuaeth Agored Abertawe

Cystadleuaeth Agored Oriel Mostyn

New Contemporaries

Celfyddydau Gweledol Jerwood

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245