Hysbysebir cyfleoedd gyrfaol yng Nghyngor Celfyddydau Cymru ac mewn sefydliadau cysylltiol ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru. Hefyd, mae gan wefannau Cyngor Celfyddydau Lloegr a Chyngor Celfyddydau'r Alban dudalennau swyddi gwag.
Yn gyffredinol, hysbysebir swyddi yn y celfyddydau mewn sefydliadau penodol yn y wasg leol a chenedlaethol ynghyd â chyhoeddiadau celf arbenigol, y gellir eu gweld ar y rhyngrwyd.